Tuesday 13 October 2020

Gearing up to help out: the latest on infoengine


by guest author Melissa Townsend
County Development Officer at Powys Association of Voluntary Organisations

infoengine is an online directory of third sector services across Wales. Individuals use infoengine to search for services which can support them in their area; for example, a food bank or club that they would like to get involved with.

infoengine has over 7,000 services registered across Wales and it is a helpful tool for those smaller organisations who do not have a website as infoengine can act as a web page for organisations.

Searching on infoengine is easy, all you need to do is add the keyword for the service you are looking for e.g. football and then add the area e.g. Brecon and infoengine will show you the relevant results.


During lock down, PAVO recruited an infoengine volunteer, Milly, who has been contacting groups in Powys to register on infoengine. Milly has been invaluable and has contacted food banks, community transport schemes and COVID-19 groups to support them to register on infoengine.


Milly recently received her A level results and has been accepted to her first choice university, so she left us in September. This is a really exciting time for Milly and we will sorely miss her and the support she has given to infoengine as a volunteer.

infoengine supports both individuals and organisations.

Age Connects Torfaen 

Here are some quotes from organisations and individuals who have used infoengine:

Emma, who works at Age Connects Torfaen, explains: “Infoengine is a comprehensive online source that we greatly value. It’s a positive step for the third sector to have their own platform, because good work is being carried out locally, by independent charities, many of which have limited marketing budgets. infoengine offers a safety net – for free.”

Powys food bank volunteers

Julia, a food bank volunteer, says: “infoengine is important to us, because we know a good number of people who have used it in order to find us. When people are in crisis they need help urgently, and it acts like a web page.”

Powys Befrienders get-together

Natalie, a volunteer turned employee of Powys Befriending Service, tells her story: “I was googling for a volunteering opportunity when I found their infoengine page. I now work for them full time and one of my tasks is to ensure each of the groups are listed, because I know – from experience – you never know who could be using the site and the difference it can make to their lives!”

If you would like support to register on infoengine or would like to become a volunteer, please contact us: infoengine@pavo.org.uk or telephone 01597 822191.

Click HERE to view our handy ‘How To’ Guide for registering on infoengine

Follow us on Twitter and Facebook



Yn paratoi i helpu: y diweddaraf ar infoengine



gan yr awdur gwadd Melissa Townsend

Swyddog Datblygu Sirol Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys


Cyfeiriadur ar-lein o wasanaethau trydydd sector ledled Cymru yw infoengine. Mae unigolion yn defnyddio infoengine i chwilio am wasanaethau a all eu cefnogi yn eu hardal; er enghraifft, banc bwyd neu glwb yr hoffent gymryd rhan ynddo.

Mae gan infoengine dros 7,000 o wasanaethau wedi'u cofrestru ledled Cymru ac mae'n arf defnyddiol i'r sefydliadau llai hynny sydd heb wefan, gan y gall infoengine weithredu fel tudalen we i sefydliadau.

Mae’n rhwydd chwilio ar infoengine, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ychwanegu'r allweddair ar gyfer y gwasanaeth rydych chi'n chwilio amdano e.e. Pêl-droed ac yna ychwanegu'r ardal e.e. Rhaeadr Gwy, a bydd infoengine yn dangos y canlyniadau perthnasol i chi.


Yn ystod y cyfnod clo, mae PAVO wedi recriwtio gwirfoddolwr ar gyfer infoengine - Milly, sydd wedi bod yn cysylltu â grwpiau Powys i gofrestru ar infoengine. Mae Milly wedi bod yn amhrisiadwy ac wedi cysylltu â banciau bwyd, cynlluniau cludiant cymunedol a grwpiau COVID-19 i'w cefnogi i gofrestru ar infoengine.


Yn ddiweddar, derbyniodd Milly ei chanlyniadau Lefel A ac mae wedi cael ei derbyn i'’r brifysgol a’i dewis cyntaf, felly bydd yn ein gadael ym mis Medi. Mae hwn yn amser cyffrous iawn i Milly a byddwn yn gweld ei eisiau yn fawr a'r gefnogaeth y mae wedi'i rhoi i infoengine fel gwirfoddolwr.

Mae infoengine yn cefnogi unigolion a sefydliadau.

Age Connects Torfaen 

Dyma rai dyfyniadau gan sefydliadau ac unigolion sydd wedi defnyddio infoengine:

Eglura Emma, ​​sy'n gweithio yn Age Connects Torfaen: “Mae Infoengine yn ffynhonnell ar-lein gynhwysfawr ac rydym yn ei gwerthfawrogi'n fawr. Mae'n gam pwysig i'r trydydd sector gael ei blatfform ei hun, oherwydd mae gwaith da yn cael ei wneud yn lleol, gan elusennau annibynnol, y mae gan lawer ohonynt gyllidebau marchnata cyfyngedig. Mae infoengine yn cynnig rhwyd ​​ddiogelwch - am ddim.”

Gwirfoddolwyr banc bwyd Powys

Dywed Julia, gwirfoddolwr gyda banc bwyd: “Mae infoengine yn bwysig i ni, oherwydd rydyn ni'n adnabod nifer dda o bobl sydd wedi'i ddefnyddio er mwyn dod o hyd i ni. Pan fydd pobl mewn argyfwng mae angen help arnyn nhw ar frys, ac mae'n gweithredu fel tudalen we."

Cyfeillgarwch Powys yn dod at ei gilydd

Mae Natalie, gwirfoddolwr sydd bellach yn gyflogedig gan Wasanaeth Cyfeillion Powys, yn adrodd ei stori: “Roeddwn yn chwilio am gyfle gwirfoddoli pan ddes o hyd i dudalen infoengine. Bellach, rwyf yn gweithio iddyn nhw’n llawn-amser ac un o fy nhasgau yw sicrhau bod pob un o'r grwpiau wedi'u rhestru, oherwydd rydw i'n gwybod - o brofiad - nad ydych chi byth yn gwybod pwy allai fod yn defnyddio'r wefan a'r gwahaniaeth y gall ei wneud i'w bywydau!"

Os hoffech gael cefnogaeth i gofrestru ar infoengine neu os hoffech ddod yn wirfoddolwr, cysylltwch â ni: infoengine@pavo.org.uk neu ffoniwch 01597 822191.

Cliciwch YMA i weld ein Canllaw defnyddiol ‘How To’ ar gyfer cofrestru ar infoengine

Dilynwch ni ar Twitter a Facebook

No comments:

Post a Comment