Thursday 7 October 2021

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2021 | World Mental Health Day 2021


Iechyd Meddwl mewn Byd Anghyfartal 

Eleni byddwn yn dathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar ddydd Sul, 10fed Hydref. Y sefydliad tu ôl i’r diwrnod ymwybyddiaeth pwysig hwn yw’r Ffederasiwn Byd-eang Iechyd Meddwl.

“Nod Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yw codi ymwybyddiaeth ar draws y byd am agendâu hollbwysig ym maes iechyd meddwl - gan uno lleisiau trwy gydweithio gyda phartneriaid amrywiol - i weithredu ac i greu newid parhaol trwy’r negeseuon a hyrwyddir.”


Y thema eleni yw “Iechyd Meddwl mewn Byd Anghyfartal.”

Anghyfartaledd yw’r gwahaniaeth mewn statws cymdeithasol, cyfoeth neu gyfleoedd rhwng pobl neu grwpiau.

Mental Health in an Unequal World


This year we celebrate World Mental Health Day on Sunday 10 October. The World Federation for Mental Health is the driver behind this important awareness day.

“World Mental Health Day aims to raise awareness in the global community about the critical mental health agendas – with a unifying voice through collaboration with various partners – to take action and to create lasting change through the messages we promote.”

The theme this year is “Mental Health in an Unequal World.”

Inequality is the difference in social status, wealth or opportunity between people or groups.

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2021

"Mae’r byd yn fwyfwy polareiddiedig gydag unigolion cyfoethog iawn yn dod yn fwy cyfoethog, a nifer y bobl sy’n byw mewn tlodi yn llawer rhy uchel o hyd. Daeth anghydraddoldebau oherwydd hil ac ethnigrwydd, tueddfryd rhywiol a hunaniaeth rhyw yn llawer mwy amlwg yn 2020, a’r diffyg parch tuag at hawliau dynol mewn nifer o wledydd, gan gynnwys i bobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl. Mae’r anghydraddoldebau hyn yn cael effaith ar iechyd meddwl pobl.

Rydym yn awyddus i gefnogi cymdeithas sifil i chwarae rhan weithgar wrth fynd i’r afael ag anghyfartaledd mewn ardaloedd lleol. Rydym eisiau annog ymchwilwyr i rannu’r wybodaeth sydd ganddynt am anghyfartaledd iechyd meddwl, gan gynnwys syniadau ymarferol o ran sut i fynd i’r afael â hyn."

Ffederasiwn Byd-eang Iechyd Meddwl

World Mental Health Day 2021

"The world is increasingly polarized, with the very wealthy becoming wealthier, and the number of people living in poverty still far too high. 2020 highlighted inequalities due to race and ethnicity, sexual orientation and gender identity, and the lack of respect for human rights in many countries, including for people living with mental health conditions. Such inequalities have an impact on people’s mental health.

We want to support civil societies to play an active role in tackling inequality in their local areas. We want to encourage researchers to share what they know about mental health inequality including practical ideas about how to tackle this."

World Federation for Mental Health


Cydraddoldeb ym Mhowys

Ym Mhowys - yn debyg i rannau eraill o Gymru - mae gwasanaethau cymorth o bob math ar gael i gefnogi pobl sy’n ceisio ymdopi yn ystod cyfnod o galedi ariannol megis banciau bwyd a chynlluniau tlodi tanwydd. Mae’r gwasanaethau’n cael eu defnyddio’n rheolaidd sy’n awgrymu bod pobl yn cael trafferthion go iawn, eu bod yn parhau a’i fod yn anodd eu goresgyn.

Hwyrach y bydd pobl sydd â nodweddion gwarchodedig (oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gredoau, rhyw, tueddfryd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil - mewn perthynas â chael eu trin yn wahanol yn eu gwaith) yn profi gwarthnod, bwlio a hyd yn oed dioddef o drosedd casineb unrhyw adeg yn eu bywyd oherwydd pwy ydynt yn syml iawn.

Gall yr holl ffactorau hyn olygu bod pobl dan anfantais, yn ymarferol ac yn gorfforol, a hefyd ar lefel seicolegol, ac mae’n bur debyg eu bod yn fwy tebygol o gael trafferth ymdopi ag iechyd meddwl na phobl nad yw’r heriau hyn yn effeithio arnynt yn ddyddiol.

Gofynnodd astudiaeth a gynhaliwyd gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys yn 2018 i helpu eu hysbysu mewn perthynas â’r strategaeth cydraddoldeb newydd, i ymatebwyr nodi pa grwpiau o bobl oedd ar y cyfan yn cael y profiadau iechyd gwaethaf. Y tri uchaf oedd: pobl anabl, pobl hŷn a phobl drawsrywiol.

Wrth ofyn pa bobl oedd yn cael y profiad gwaethaf o ran dylanwadu ar benderfyniadau, y tri uchaf oedd: pobl anabl, pobl dduon ac o leiafrifoedd ethnig, a phlant a phobl ifanc.


Equalities in Powys

In Powys – as in all parts of Wales - there are all kinds of support services for people struggling through financial hardship such as foodbanks and fuel poverty schemes. The services are well used, which suggests that the struggles are real, continuing and hard to overcome.

People with protected characteristics (age, disability, gender reassignment, pregnancy and maternity, race, religion or belief, sex, sexual orientation, marriage and civil partnership - in relation to being treated differently at work) may experience stigma, bullying and even be the victims of hate crime at any stage of their life just because of who they are.

All of these factors can mean that people are disadvantaged, both practically and physically, and also psychologically, and probably much more likely to struggle with their mental health than people who don’t face such challenges on a daily basis.

A study carried out by Powys Teaching Health Board in 2018 to help inform their new equality strategy asked respondents which groups of people generally had the worst experiences of health. The top three were disabled people, older people and transgender people.

When asked which people had the worst experience of influencing decisions, the top three were disabled people, black and minority ethnic people and children & young people.

Powys Teaching Health Board Strategic Equality Plan 2020 – 2024 “Fairness & Equality for All”


Mae poblogaeth Powys yn fwy amrywiol nag y byddem yn meddwl ar yr olwg gyntaf. Mae cynllun cydraddoldeb y bwrdd iechyd yn disgrifio rhai ystadegau am breswylwyr, sydd:

“Yn caniatáu ichi werthfawrogi amrywiaeth ein poblogaeth a’r angen i drin ein gilydd mewn ffordd urddasol a pharchus. Mae’n bwysig ein bod yn sicrhau y caiff grwpiau ymylol neu grwpiau pobl nas clywir eu barn yn aml eu cynnwys a bod ganddynt fynediad at wasanaethau.”

Gweler isod ychydig o enghreifftiau o’r ystadegau a ddyfynnwyd:
  • Ar gyfer pob 100 o bobl sy’n byw ym Mhowys, bydd 5-7 o bobl yn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol.
  • Dywedodd 19% o ddinasyddion eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn 2011.
  • Daw 130,827 (98%) o bobl o gefndir gwyn, ac mae 2,149 (2%) yn dod o gefndir nad yw’n wyn.
  • Mae 41.6% o 59,215 o gartrefi’n ennill llai na £20,000 y flwyddyn.
  • Yn ôl 8% o boblogaeth Powys maent yn derbyn triniaeth ar gyfer iselder neu bryder, a hwn yw un o’r tri phrif achos o anabledd.
Yn gynharach eleni, ysgrifennodd Diverse Cymru, yr elusen cydraddoldeb yng Nghymru, am y cydraddoldeb y mae pobl BAME (Duon ac o Leiafrifoedd Ethnig) yn eu hwynebu yng Nghymru mewn perthynas ag iechyd meddwl gan gynnwys “diffyg difrifol o ran therapïau siarad, h.y.: cwnsela ar gyfer pobl BAME nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.”

A hyd yn oed ychydig o flynyddoedd yn ôl yn ôl Mind, yr elusen iechyd meddwl bu’n rhaid i bobl yng Nghymru aros yn hirach ar gyfer gwasanaeth cwnsela trwy gyfrwng y Gymraeg o’i gymharu â’r Saesneg.

The population of Powys is more diverse than we might think at first glance. The health board’s equality plan describes some stats about residents, which:

“Allows one to appreciate the diversity of our population and the need to treat one another with dignity and respect. It is important that we ensure that marginalised or seldom heard groups of people are involved and have access to services.”

Here are just a few examples from the stats they list:
  • For every 100 people living within Powys, 5-7 people would be lesbian, gay or bisexual.
  • 19% of citizens said they could speak Welsh in 2011.
  • 130,827 (98%) people are from a white background and 2,149 (2%) from a non-white background.
  • 41.6% of 59,215 households earn less than £20,000 per year.
  • 8% of the Powys population report being treated for depression or anxiety and it is one of the top three leading causes of disability.
Earlier this year Diverse Cymru, the equalities charity in Wales, wrote about the inequalities faced by BAME (Black & Minority Ethnic) people in Wales in relation to mental health, including the “severe lack of talking therapies, ie: counselling for BAME people whose first language is not English.”

And even just a few years ago the mental health charity Mind reported that people in Wales had to wait longer for counselling in Welsh than in English.


Mynd i’r afael â chydraddoldeb i wella Iechyd Meddwl

"Mae anghydraddoldeb cymdeithasol ym mhob man: tlodi a straen ariannol, hiliaeth, rhagfarn ar sail rhyw, bwlio a seilir ar dueddfryd rhywiol, digartrefedd ac allgáu cymdeithasol oherwydd anabledd neu oedran, i enwi dim ond rhai. Ond yn aml iawn, bydd trafodaethau ynghylch achosion problemau iechyd meddwl yn canolbwyntio ar ffactorau unigol. Anaml iawn y bydd trafodaeth gyhoeddus yn cydnabod fod amgylchiadau ein genedigaeth, ein magwraeth a lle rydym yn byw yn cael effaith sylweddol ar ein cyfleoedd i gael iechyd meddwl da."


Adroddiad y Sefydliad Iechyd Meddwl 2020 – Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol er mwyn lleihau problemau iechyd meddwl (Sut gall pawb ffynnu ar lefel gyfartal).

Mae adroddiad y Sefydliad Iechyd Meddwl yn fanwl iawn, ac mae’n werth ei ddarllen er mwyn dysgu mwy am:
  • Natur a maint anghydraddoldeb iechyd meddwl.
  • Mapio anghydraddoldeb sy’n cael dylanwad ar iechyd meddwl, e.e.: economaidd, addysg, statws diwylliannol / grŵp cymdeithasol, profiadau niweidiol mewn plentyndod, iechyd / anabledd a heneiddio, a dylanwad ecolegol megis digartrefedd.
  • Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol er mwyn gwella iechyd meddwl.
Un o obeithion penodol y Sefydliad yw “dangos atebion effeithiol, meintiol sy’n lleihau effaith anfantais ac sy’n magu gwydnwch ymhlith pobl sydd wedi profi anghydraddoldeb”. Yn ein cymunedau lleol ni, gall rhai o’r rhain gynnwys tai fforddiadwy, gwasanaethau cyhoeddus sy’n deall trawma, a mwy o gyfranogiad cymunedol. Ac ar lefel genedlaethol mae’r sefydliad yn galw am gymorth incwm nad yw’n seiliedig ar brawf modd, dylunio mewn ‘mannau gwyrdd-glas’ (e.e.: parciau, coed ar strydoedd a phyllau) a rheoleiddio marchnata ar gyfer diwydiannau niweidiol, er enghraifft.

Tackling inequalities to improve mental health

"Social inequalities are all around us: poverty and financial strain, racism, sexism, bullying based on sexual orientation, homelessness, and social exclusion due to disability or age, to name just a handful. Yet discussion on the causes of mental health problems often focusses on individual factors. Rarely does public discourse acknowledge that the circumstances in which we are born, raised and live profoundly affect our chances of having good mental health."

Mental Health Foundation 2020 report – Tackling social inequalities to reduce mental health problems (How everyone can flourish equally).

The Mental Health Foundation report is extremely detailed and well worth the longer read to find out more about:
  • The nature & extent of mental health inequalities.
  • Mapping inequalities that influence mental health, eg: economic, education, cultural / social group status, adverse childhood experiences, health / disability & ageing, and ecological influences such as homelessness.
  • Tackling socioeconomic inequalities to improve mental health.
The Foundation particularly hopes “to demonstrate effective, scalable solutions that minimise the effects of disadvantage and foster resilience in people with experience of inequality”. Within our local communities some of these could include affordable housing, trauma informed public services, and increased community participation. Whilst at a national level the Foundation calls for non means-tested income supports, designing in ‘green-blue space’ (eg: parks, street trees and ponds) and regulation on marketing for harmful industries, for example.


Mae’n bwysig i bob un ohonom ym Mhowys fyw a gweithio mewn ffordd sy’n parchu pawb. Ond nid yn unig hyn, ond mewn ffordd sy’n caniatáu adnabod a herio anghydraddoldeb. Mae angen inni gychwyn mwy o sgyrsiau ynghylch anghydraddoldeb ym mhob agwedd ar fywyd, ond mewn perthynas ag iechyd meddwl, mae angen inni ganolbwyntio ar y problemau sy’n parhau i arwain at fynediad anghyfartal at wasanaethau a chymorth i bobl.

Gall mwy o gydweithio fod yn fuddiol o ran y cymorth yma - yn enwedig rhwng y sefydliadau gwahanol sy’n cynnig gofal ym maes iechyd a gofal cysylltiedig. Hefyd mae’n bwysig clywed yn amlach lleisiau’r sawl sy’n profi anghydraddoldeb - ac estyn gwahoddiad i’r sawl sy’n fodlon rhannu eu profiadau i gyfrannu wrth ddylunio gwasanaethau iechyd gwell ar gyfer y dyfodol er mwyn bodloni eu hanghenion. Byddai’n braf clywed gan unrhyw un sydd am gyfrannu at lywio gwasanaethau’r dyfodol. Gellir dysgu mwy trwy’r tudalennau Cyfrannu ar ein gwefan a/neu drwy gysylltu â’r Swyddog Cyfranogiad Iechyd Meddwl - Owen Griffkin trwy e-bostio: owen.griffkin@pavo.org.uk

Mae thema Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni - “Iechyd Meddwl mewn Byd Anghyfartal” - yn enfawr. Mae’n haeddu cant o bostiadau blog! Gofynnir ichi ddarllen y dogfennau hirach trwy’r dolenni uchod er mwyn deall yn well yr hyn y gall llywodraethau, cymunedau ac unigolion ei wireddu, trwy gydweithio, sy’n fodlon hybu mwy o newid er mwyn datrys yr anghydraddoldebau cyfredol, sydd, er gwaethaf bwriadau gorau llawer o bobl, yn parhau heddiw ym Mhowys a’r byd ehangach.

It is important that each and every one of us in Powys lives and works in a way which is respectful to all. But not only this, but in a way which allows inequality to be identified and challenged. We need to start more conversations about inequality in all areas of life, but in relation to mental health we need to focus on the issues which still result in people having unequal access to services and support.

This support might benefit from more joined up working – particularly between the many different organisations providing health and related care. It is also important to hear more often the voice of those experiencing inequality – and inviting those individuals who are willing to share their experiences to participate in designing future health services better equipped to serve their needs. We welcome contact from anyone who wishes to contribute to shaping future services. You can find out more on our Getting Involved website pages and / or contact our Mental Health Participation Officer Owen Griffkin by emailing: owen.griffkin@pavo.org.uk

The theme of this year’s World Mental Health Day – “Mental Health in an Unequal World” – is massive. Worthy of a hundred blog posts! Please read the longer documents we have linked to for a greater understanding of what could be achieved by governments, communities and individuals all working together, all willing to push for bigger change to resolve the current inequalities which, despite the best intentions of many, still persist in Powys and the wider world.

NEWYDD DDOD I LAW: Un o flaenoriaethau cyllido’r Dream Fund eleni yw: Anghydraddoldeb Cymdeithasol. Gall elusennau wneud cais am hyd at £1,250,000 ar gyfer prosiect arloesol, effeithiol a chydweithiol. Gellir dysgu mwy a sut i wneud cais am grant yma.

STOP PRESS: One of The Dream Fund’s funding priorities this year is: Social Inequality. Charities can apply for up to £1,250,000 for an innovative, impactful and collaborative project. Find out more and how to apply for a grant here.

No comments:

Post a Comment